1 Yn y dyddiau pan oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron Eli, yr oedd gair yr ARGLWYDD yn brin, a gweledigaeth yn anfynych.
2 Un noswaith yr oedd Eli yn gorwedd yn ei le, ac yr oedd ei lygaid wedi dechrau pylu ac yntau'n methu gweld.
3 Nid oedd lamp Duw wedi diffodd eto, ac yr oedd Samuel yn cysgu yn nheml yr ARGLWYDD, lle'r oedd arch Duw.
4 Yna galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel. Dywedodd yntau, “Dyma fi.” Rhedodd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn galw arnaf.”
5 Atebodd ef, “Nac oeddwn, dos yn ôl i orwedd.” Aeth yntau a gorwedd.
6 Yna galwodd yr ARGLWYDD eto, “Samuel!” Cododd Samuel a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn fy ngalw.” Ond dywedodd ef, “Nac oeddwn, fy machgen, dos yn ôl i orwedd.”