14 Am hynny tyngais wrth dŷ Eli, ‘Ni wneir iawn byth am ddrygioni tŷ Eli ag aberth nac ag offrwm’.”
15 Gorweddodd Samuel tan y bore, yna agorodd ddrysau tŷ'r ARGLWYDD; ond ofnai ddweud y weledigaeth wrth Eli.
16 Galwodd Eli ar Samuel, “Samuel, fy machgen.” Atebodd yntau, “Dyma fi.” Yna holodd, “Beth oedd y neges a lefarodd ef wrthyt?
17 Paid â'i chelu oddi wrthyf. Fel hyn y gwnelo Duw iti, a rhagor, os cuddi oddi wrthyf unrhyw beth a lefarodd ef wrthyt.”
18 Yna mynegodd Samuel y cyfan wrtho, heb gelu dim. Ac meddai yntau, “Yr ARGLWYDD yw; fe wna'r hyn sydd dda yn ei olwg.”
19 Tyfodd Samuel, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef; ni adawodd i'r un o'i eiriau fethu.
20 Sylweddolodd Israel gyfan, o Dan hyd Beerseba, fod Samuel wedi ei sefydlu'n broffwyd i'r ARGLWYDD.