18 Yna mynegodd Samuel y cyfan wrtho, heb gelu dim. Ac meddai yntau, “Yr ARGLWYDD yw; fe wna'r hyn sydd dda yn ei olwg.”
19 Tyfodd Samuel, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef; ni adawodd i'r un o'i eiriau fethu.
20 Sylweddolodd Israel gyfan, o Dan hyd Beerseba, fod Samuel wedi ei sefydlu'n broffwyd i'r ARGLWYDD.
21 A pharhaodd yr ARGLWYDD i ymddangos yn Seilo, oherwydd yno y'i datguddiodd ei hun i Samuel trwy ei air.