7 Yr oedd hyn cyn i Samuel adnabod yr ARGLWYDD, a chyn bod gair yr ARGLWYDD wedi ei ddatguddio iddo.
8 Galwodd yr ARGLWYDD eto'r drydedd waith, “Samuel!” A phan gododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn galw arnaf,” deallodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen.
9 Felly dywedodd Eli wrth Samuel, “Dos i orwedd, ac os gelwir di eto, dywed tithau, ‘Llefara, ARGLWYDD, canys y mae dy was yn gwrando’.” Aeth Samuel a gorwedd yn ei le.
10 Yna daeth yr ARGLWYDD a sefyll a galw fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!” A dywedodd Samuel, “Llefara, canys y mae dy was yn gwrando.”
11 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Yr wyf ar fin gwneud rhywbeth yn Israel a fydd yn merwino clustiau pwy bynnag a'i clyw.
12 Y dydd hwnnw dygaf ar Eli y cwbl a ddywedais am ei dŷ, o'r dechrau i'r diwedd;
13 a dywedaf wrtho fy mod yn barnu ei dŷ am byth, oherwydd gwyddai fod ei feibion yn melltithio Duw, ac ni roddodd daw arnynt.