15 Yr oedd Eli'n naw deg ac wyth oed, a'i lygaid wedi pylu fel na fedrai weld.
16 A dywedodd y dyn wrth Eli, “Myfi sydd wedi dod o'r frwydr; heddiw y ffois o'r gad.” Yna gofynnodd iddo, “Beth yw'r newydd, fy machgen?”
17 Atebodd y cennad, “Ffodd Israel o flaen y Philistiaid, a bu lladdfa fawr ymysg y bobl hefyd; y mae dy ddau fab, Hoffni a Phinees wedi marw, ac arch Duw wedi ei chymryd.”
18 Pan soniodd am arch Duw, syrthiodd Eli yn wysg ei gefn oddi ar y sedd gerllaw'r porth, a thorri ei wddf a marw, oherwydd yr oedd yn hen ac yn ddyn trwm. Yr oedd wedi barnu Israel am ddeugain mlynedd.
19 Yr oedd ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig Phinees, yn feichiog ac yn agos i esgor. Pan glywodd hi'r newydd fod arch Duw wedi ei chymryd a bod ei thad-yng-nghyfraith a'i gŵr wedi marw, crymodd ac esgorodd, oherwydd daeth ei gwewyr arni.
20 Ac fel yr oedd hi'n marw, dywedodd y merched oedd o'i chwmpas, “Paid ag ofni, rwyt ti wedi esgor ar fab.” Nid atebodd hi na chymryd sylw,
21 ond enwi'r bachgen, Ichabod, a dweud, “Ciliodd gogoniant o Israel,” oherwydd colli arch Duw a'i thad-yng-nghyfraith a'i gŵr.