8 Wedi iddynt anfon a chasglu atynt holl arglwyddi'r Philistiaid, gofynasant, “Beth a wnawn ag arch Duw Israel?” Atebasant hwythau, “Aed arch Duw Israel draw i Gath.” Felly aethant ag arch Duw Israel yno.
9 Ond wedi iddynt fynd â hi yno, bu llaw'r ARGLWYDD ar y ddinas a pheri difrod mawr iawn, trawyd pobl y ddinas yn hen ac ifainc, a thorrodd y cornwydydd allan arnynt hwythau.
10 Anfonasant arch Duw i Ecron, ond pan gyrhaeddodd yno, cwynodd pobl Ecron, “Y maent wedi dod ag arch Duw Israel atom ni i'n lladd ni a'n teuluoedd.”
11 Felly anfonasant i gasglu ynghyd holl arglwyddi'r Philistiaid a dweud, “Anfonwch arch Duw Israel yn ôl i'w lle ei hun, rhag iddi'n lladd ni a'n teuluoedd.”
12 Yr oedd ofn angau drwy'r holl ddinas am fod llaw Duw mor drwm yno, a hyd yn oed y rhai a arbedwyd rhag marwolaeth wedi eu taro â'r cornwydydd; ac esgynnai gwaedd y ddinas i'r entrychion.