14 Adferwyd i Israel y trefi yr oedd y Philistiaid wedi eu dwyn oddi arni, o Ecron hyd Gath; a rhyddhaodd Israel eu terfynau o afael y Philistiaid. Yr oedd heddwch hefyd rhwng Israel a'r Amoriaid.
15 Bu Samuel yn barnu Israel ar hyd ei oes.
16 Bob blwyddyn âi ar gylchdaith i Fethel, Gilgal a Mispa, a barnu Israel yn y mannau hyn.
17 Yna dychwelai i Rama, oherwydd yno'r oedd ei gartref. Barnai Israel yno hefyd, a chododd yno allor i'r ARGLWYDD.