3 Dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, “Os ydych yn dychwelyd at yr ARGLWYDD â'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau estron a'r Astaroth o'ch mysg; rhowch eich meddwl ar yr ARGLWYDD, a'i addoli ef yn unig, ac fe'ch achub o law y Philistiaid.”
4 A bwriodd Israel ymaith y Baalim a'r Astaroth, ac addoli'r ARGLWYDD yn unig.
5 Yna dywedodd Samuel, “Casglwch holl Israel i Mispa, a gweddïaf drosoch ar yr ARGLWYDD.”
6 Ac wedi iddynt ymgasglu i Mispa, a thynnu dŵr a'i arllwys gerbron yr ARGLWYDD, gwnaethant ympryd yno y diwrnod hwnnw a dweud, “Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.” Yn Mispa yr oedd Samuel yn barnu Israel.
7 Pan glywodd y Philistiaid fod Israel wedi dod ynghyd i Mispa, daeth arglwyddi'r Philistiaid i fyny yn erbyn Israel. Clywodd Israel hynny, a daeth arnynt ofn y Philistiaid, ac meddent wrth Samuel,
8 “Gweddïa'n ddi-baid drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw iddo'n gwaredu ni o law'r Philistiaid.”
9 Cymerodd Samuel oen sugno a'i offrymu'n boethoffrwm cyfan i'r ARGLWYDD; gweddïodd ar yr ARGLWYDD dros Israel, ac atebodd yr ARGLWYDD ef.