7 Pan glywodd y Philistiaid fod Israel wedi dod ynghyd i Mispa, daeth arglwyddi'r Philistiaid i fyny yn erbyn Israel. Clywodd Israel hynny, a daeth arnynt ofn y Philistiaid, ac meddent wrth Samuel,
8 “Gweddïa'n ddi-baid drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw iddo'n gwaredu ni o law'r Philistiaid.”
9 Cymerodd Samuel oen sugno a'i offrymu'n boethoffrwm cyfan i'r ARGLWYDD; gweddïodd ar yr ARGLWYDD dros Israel, ac atebodd yr ARGLWYDD ef.
10 Y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Samuel yn offrymu'r poethoffrwm, a'r Philistiaid yn nesáu i ymladd ag Israel, cododd yr ARGLWYDD storm daranau yn erbyn y Philistiaid a'u drysu, a gyrrwyd hwy ar ffo o flaen Israel.
11 Yna aeth gwŷr Israel allan o Mispa, ac erlid y Philistiaid a'u taro nes dod islaw Beth-car.
12 Yna cymerodd Samuel faen, a'i osod rhwng Mispa a Sên a'i alw'n Ebeneser, a dweud, “Hyd yma y cynorthwyodd yr ARGLWYDD ni.”
13 Darostyngwyd y Philistiaid ac ni ddaethant eto i diriogaeth Israel; yr oedd llaw'r ARGLWYDD yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel.