1 Yr oedd gŵr blaenllaw yn Benjamin o'r enw Cis fab Abiel, fab Seror, fab Becorath, fab Affeia,
2 a chanddo fab o'r enw Saul, gŵr ifanc golygus nad oedd ei well ymysg yr Israeliaid, ac yn dalach o'i ysgwyddau i fyny na neb arall.
3 Aeth asennod Cis tad Saul ar goll, a dywedodd Cis wrth ei fab Saul, “Cymer un o'r gweision a dos i chwilio am yr asennod.”
4 Aethant drwy fynydd-dir Effraim a thrwy ardal Salisa, ond heb eu cael; yna mynd drwy ardal Saalim, ond nid oedd dim o'u hanes yno; ac yna drwy diriogaeth Benjamin, ond eto heb eu cael.
5 Wedi iddynt ddod i ardal Suff, dywedodd Saul wrth y gwas oedd gydag ef, “Tyrd, awn yn ôl, rhag i 'nhad anghofio'r asennod a dechrau poeni amdanom ni.”
6 Ac meddai'r gwas wrtho, “Edrych, y mae yma ŵr Duw yn y dref hon sy'n uchel ei glod, a phopeth a ddywed yn sicr o ddigwydd. Gad inni fynd ato, ac efallai y dywed wrthym pa ffordd y dylem fynd.”
7 Ond dywedodd Saul wrth ei was, “A bwrw'n bod ni'n mynd, beth a ddygwn ni i'r dyn? Y mae hyd yn oed y bara yn ein paciau wedi darfod; nid oes gennym unrhyw rodd i'w chynnig i ŵr Duw. Beth sydd gennym?”