17 Pan welodd Samuel Saul, dywedodd yr ARGLWYDD, “Dyma'r dyn y dywedais wrthyt amdano; hwn sydd i reoli fy mhobl.”
18 Daeth Saul i fyny at Samuel yng nghanol y porth a dweud wrtho, “A fyddi mor garedig â dweud wrthyf ymhle y mae tŷ'r gweledydd?”
19 Atebodd Samuel, “Fi yw'r gweledydd; dos i fyny o'm blaen i'r uchelfa; cei fwyta gyda mi heddiw, a gollyngaf di ymaith yfory ar ôl dweud wrthyt bopeth sydd yn dy galon.
20 Ac am yr asennod sydd ar goll gennyt ers tridiau, paid â phoeni amdanynt, oherwydd cafwyd hwy. I bwy y mae popeth dymunol yn Israel? Onid i ti a'th holl deulu?”
21 Atebodd Saul, “Onid un o Benjamin wyf fi, o'r lleiaf o lwythau Israel? A'm tylwyth i yw'r distatlaf o holl dylwythau llwyth Benjamin. Pam, felly, yr wyt yn siarad fel hyn â mi?”
22 Cymerodd Samuel Saul a'i was, a mynd â hwy i'r neuadd a rhoi iddynt y lle blaenaf ymysg y gwahoddedigion; yr oedd tua deg ar hugain ohonynt.
23 Yna dywedodd Samuel wrth y cogydd, “Estyn y darn a roddais iti pan ddywedais wrthyt, ‘Cadw hwn o'r neilltu’.”