23 Yna dywedodd Samuel wrth y cogydd, “Estyn y darn a roddais iti pan ddywedais wrthyt, ‘Cadw hwn o'r neilltu’.”
24 Dygodd y cogydd y glun a'r hyn oedd arni, a'i gosod gerbron Saul a dweud, “Dyma'r hyn a gadwyd ar dy gyfer; bwyta, oherwydd fe'i cadwyd iti ar gyfer yr amser penodedig, i'w fwyta gyda'r gwahoddedigion.” Bwytaodd Saul y diwrnod hwnnw gyda Samuel.
25 Wedi iddynt ddychwelyd o'r uchelfa i'r dref, gwnaethant wely i Saul ar ben y tŷ, a chysgodd yno.
26 Pan dorrodd y wawr, galwodd Samuel ar Saul, ac yntau ar y to, a dweud, “Cod, imi gael dy anfon ymaith.” Ac wedi i Saul godi, aeth y ddau allan, Samuel ac yntau.
27 Wedi iddynt ddod i gwr y dref, dywedodd Samuel wrth Saul, “Dywed wrth y gwas am fynd o'n blaen, ac wedyn aros di ennyd, imi fynegi gair Duw iti.”