9 Eser oedd y pennaeth, wedyn, mewn trefn, Obadeia, Eliab,
10 Mishmanna, Jeremeia,
11 Attai, Eliel,
12 Iochanan, Elsabad
13 Jeremeia, a Machbanai.
14 Nhw oedd y capteniaid o lwyth Gad. Roedd cant o ddynion dan y lleiaf ohonyn nhw a dros fil o dan y mwyaf.
15 Dyma'r rhai oedd wedi croesi'r Iorddonen yn ystod y mis cyntaf, pan oedd hi wedi gorlifo ei glannau i gyd. Roedden nhw wedi gwneud i bawb oedd yn byw yn y dyffrynnoedd, i'r dwyrain ac i'r gorllewin, ffoi o'u blaenau.