5 Pam dych chi'n dal ati i wrthryfela?Ydych chi eisiau cael eich curo eto?Mae briwiau ar bob pena'r corff yn hollol wan.
6 Does unman yn iacho'r corun i'r sawdl:Dim ond clwyfau a chleisiau,a briwiau agored –Heb eu gwella na'u rhwymo,ac heb olew i'w hesmwytho.
7 Mae eich gwlad fel anialwch,a'ch dinasoedd wedi eu llosgi'n ulw;Mae dieithriaid yn bwyta eich cnydauo flaen eich llygaid –Anialwch wedi ei ddinistrio gan estroniaid!
8 Dim ond Seion hardd sydd ar ôl –fel caban yng nghanol gwinllan,neu gwt mewn gardd lysiau;fel dinas yn cael ei gwarchae.
9 Oni bai fod yr ARGLWYDD holl-bweruswedi gadael i rai pobl fyw,bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom,neu wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.
10 Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD,arweinwyr Sodom!Gwrandwch ar beth mae Duw'n ei ddysgu i chi,bobl Gomorra!
11 “Beth ydy pwynt eich holl aberthau chi?”meddai'r ARGLWYDD.“Dw i wedi cael llond bol o hyrddod yn offrymau i'w llosgi,o fraster anifeiliaid a gwaed teirw.Dw i ddim eisiau eich ŵyn a'ch bychod geifr chi.