Eseia 6 BNET

Eseia'n gweld yr ARGLWYDD yn y deml

1 Yn y flwyddyn y buodd y brenin Wseia farw, gwelais y Meistr yn eistedd ar orsedd uchel, ac ymylon ei wisg yn llenwi'r deml.

2 Roedd seraffiaid yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio'i wyneb, dwy i guddio'i goesau, a dwy i hedfan.

3 Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud,“Sanctaidd! Sanctaidd! Sanctaidd!yr ARGLWYDD holl-bwerus!Mae ei ysblander yn llenwi'r ddaear gyfan!”

4 Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a'r neuadd yn llenwi gyda mwg.

5 Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i'n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda'm llygaid fy hun – yr ARGLWYDD holl-bwerus.”

6 Yna dyma un o'r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi ei gymryd oddi ar yr allor mewn gefel.

7 Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a talwyd iawn am dy bechod.”

8 Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i'n mynd i'w anfon? Pwy sy'n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi'n dweud, “Dyma fi; anfon fi.”

9 Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma:‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall;Edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’

10 Gwna nhw'n ystyfnig,tro eu clustiau'n fyddar,a chau eu llygaid –rhag iddyn nhw weld â'u llygaid,clywed â'u clustiau,deall go iawn,a throi a chael eu hiacháu.”

11 Dyma fi'n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe'n ateb:“Nes bydd trefi wedi eu dinistrioa neb yn byw ynddyn nhw;tai heb bobl ynddyn nhw,a'r tir wedi ei ddifetha, a'i adael yn ddiffaith.”

12 Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'r boblogaeth i ffwrdd –a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy'r wlad.

13 Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl,fydd hwnnw eto'n cael ei losgi?“Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi ei thorri i lawr,a dim ond boncyff ar ôl.Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd,fel had sanctaidd.”