Eseia 46 BNET

Duwiau diwerth Babilon

1 Mae Bel ar ei liniau,a Nabw yn gorwedd ar ei wyneb.Baich ar gefn anifeiliaid ydy eu delwau nhw;pethau mae'n rhaid eu cario – llwyth trwmar gefn anifeiliaid blinedig!

2 Maen nhw hefyd wedi syrthio, a phlygu gyda'i gilydd;doedd dim modd arbed y llwyth,ac maen nhw ar eu ffordd i'r gaethglud.

3 “Gwrandwch arna i, bobl Jacob,a phawb sydd ar ôl o bobl Israel.Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth,a dw i wedi eich cynnal chi ers i chi gael eich geni.

4 A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi'n hen;bydda i'n dal i'ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi'n wyn!Fi wnaeth chi, a fi sy'n eich cario chi –fi sy'n gwneud y cario, a fi sy'n achub.

5 Pwy sy'n cymharu hefo fi?Oes rhywun tebyg i mi?Dwedwch i bwy dw i'n debyg?Oes rhywun sydd yr un fath â mi?

6 Mae rhai pobl yn gwagio'r aur o'u pwrsac yn pwyso eu harian mewn clorian,yna'n talu gweithiwr metel i wneud duw iddyn nhw,ac wedyn yn ei addoli a syrthio ar eu hwynebau o'i flaen!

7 Mae'n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau,ac wedyn maen nhw'n ei osod ar ei draed,a dydy e ddim yn gallu symud!Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb;a dydy e ddim yn gallu achub neb o'i trafferthion!

8 Cofiwch chi hynny, a dal gafael yn y ffaith!Meddyliwch am y peth, chi wrthryfelwyr!

9 Cofiwch beth dw i wedi ei wneud yn y gorffennol.Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod.Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi.

10 Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd,ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto.Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd;Dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’

11 Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o'r dwyrain;yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i.Pan dw i'n dweud rhywbeth, mae'n siŵr o ddigwydd;fi sydd wedi ei gynllunio, a bydda i'n siŵr o'i wneud!

12 Gwrandwch arna i, chi bobl benstiff,sy'n cadw draw oddi wrth beth sy'n iawn:

13 Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn;dydy hyn ddim yn y dyfodol pell –fydd achubiaeth ddim yn cael ei ohirio.Dw i'n mynd i achub Seion!A rhoi fy ysblander i Israel!”