Eseia 55 BNET

Gwahoddiad yr ARGLWYDD

1 “Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr!Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag!Prynwch a bwytwch.Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian – mae am ddim!

2 Pam gwario'ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd,a'ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni?Gwrandwch yn ofalus arna i!Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion.

3 Gwrandwch arna i, a dewch yma.Os gwnewch chi wrando, cewch fyw!Bydda i'n gwneud ymrwymiad hefo chifydd yn para am byth –fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd.

4 Gwnes i e yn dyst i bobloedd,yn arweinydd yn rheoli gwledydd.”

5 Byddi di'n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod,a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod diyn rhedeg atat ti – o achos yr ARGLWYDD dy Dduw,Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di.

6 Dewch at yr ARGLWYDD tra mae ar gael!Galwch arno tra mae'n agos!

7 Rhaid i'r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg,a'r rhai sy'n creu helynt ar eu bwriadau –troi'n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd;troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.

8 Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â'ch bwriadau chi,a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â'ch ffyrdd chi—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

9 Fel mae'r nefoedd gymaint uwch na'r ddaear,mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chi,a'm bwriadau i yn well na'ch bwriadau chi.

10 Ond fel y glaw a'r eira sy'n disgyn o'r awyra ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio'r ddaeargan wneud i blanhigion dyfua rhoi hadau i'w hau a bwyd i'w fwyta,

11 felly mae'r neges dw i'n ei chyhoeddi:dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith –mae'n gwneud beth dw i eisiau,ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas.

12 Ie, byddwch chi'n mynd allan yn llawenac yn cael eich arwain mewn heddwch.Bydd y mynyddoedd a'r bryniau yn bloeddio canu o'ch blaen,a'r coed i gyd yn curo dwylo.

13 Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain,a llwyni myrtwydd yn lle mieri.Byddan nhw'n sefyll yno i atgoffa pobl am yr ARGLWYDD,fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr.