Eseia 52 BNET

Jerwsalem yn cael dathlu

1 Deffra! Deffra! Dangos dy nerth, Seion!Gwisga dy ddillad hardd,Jerwsalem, y ddinas sanctaidd!Fydd y paganiaid aflan sydd heb eu henwaedubyth yn dod i mewn i ti eto.

2 Cod ar dy draed, ac ysgwyd y llwch oddi arnat,eistedd ar dy orsedd, Jerwsalem!Tynna'r gefynnau oddi am dy wddfSeion, y gaethferch hardd!

3 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Cawsoch eich gwerthu am ddim,a fydd arian ddim yn eich rhyddhau chi.”

4 Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“I ddechrau, aeth fy mhobl i fyw dros dro yn yr Aifft;ac wedyn dyma Asyria yn eu gormesu nhw.

5 Felly, beth sy'n digwydd yma?”—meddai'r ARGLWYDD—“Mae fy mhobl wedi eu cipio i ffwrdd am ddim rheswm,ac mae'r rhai sy'n eu rheoli yn gwawdio.”—meddai'r ARGLWYDD—“Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy'r amser.

6 Ond bryd hynny bydd fy mhobl yn fy nabod,ac yn gwybod mai fi ydy'r un sy'n dweud,‘Dyma fi!’”

7 Mae mor wych gweld negesyddyn dod dros y mynyddoeddyn cyhoeddi fod heddwch.Mae ganddo newyddion da –mae e'n cyhoeddi fod achubiaethac yn dweud wrth Seion,“Dy Dduw di sy'n teyrnasu!”

8 Clyw! Mae'r rhai sy'n gwylio dy furiau yn galw;maen nhw'n gweiddi'n llawen gyda'i gilydd!Maen nhw'n gweld, o flaen eu llygaid,yr ARGLWYDD yn dod yn ôl i Seion.

9 Gwaeddwch chithau hefyd,adfeilion Jerwsalem!Mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei boblac yn mynd i ollwng Jerwsalem yn rhydd.

10 Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei nerthi'r cenhedloedd i gyd,ac mae pobl o ben draw'r byd yn gweldein Duw ni yn achub.

11 Ewch! Ewch! I ffwrdd â chi!Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan!Chi sy'n cario llestri'r ARGLWYDDCadwch eich hunain yn lân wrth fynd allan oddi yno.

12 Ond does dim rhaid i chi adael ar frysna dianc fel ffoaduriaid,achos mae'r ARGLWYDD yn mynd o'ch blaen chi,ac mae Duw Israel yn eich amddiffyn o'r tu cefn.

Y gwas sy'n dioddef

13 “Edrychwch! Bydd fy ngwas yn llwyddo;bydd yn cael ei ganmol a'i godi yn uchel iawn.

14 Fel roedd llawer wedi dychryn o'i weldyn edrych mor ofnadwy – prin yn ddynol(doedd e ddim yn edrych fel dyn),

15 bydd e'n puro llawer o genhedloedd.Bydd brenhinoedd yn fud o'i flaen –byddan nhw'n gweld rhywbeth oedd heb ei egluro,ac yn deall rhywbeth oedden nhw heb glywed amdano.