1 Anfon oenoddi wrth lywodraethwr y wlad,o Sela yn yr anialwchi fynydd Seion hardd:
2 “Mae merched Moab wrth rydau Arnon,fel adar wedi eu tarfu a'u gyrru o'r nyth.
3 Rhowch gyngor!Gwnewch benderfyniad!Rhowch gysgod i ni rhag y gelyn,fel oerni'r nos rhwng gwres dau ddydd:Cuddiwch ein ffoaduriaid!Peidiwch bradychu'r rhai sy'n ffoi.
4 Rhowch loches i ffoaduriaid Moab;Cuddiwch nhw rhag y gelyn sy'n dinistrio.”Pan fydd yr un creulon wedi diflannu,a'r ysbeilio wedi dod i ben,a'r gormeswyr wedi diflannu o'r tir,
5 bydd brenin dibynadwy yn cael ei orseddu –un o deulu Dafydd.Bydd yn teyrnasu'n ffyddlon,bydd yn frwd dros gyfiawnderac yn hybu tegwch.
6 “Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab –mae ei phobl mor falch!Yn snobyddlyd, yn brolio ac mor haerllug –ond mae ei brolio hi'n wag.”
7 Felly, mae Moab yn udo;mae pawb yn Moab yn udo!Mae'r rhai a anafwyd yn griddfanam deisennau ffrwyth melys Cir-chareseth.
8 Mae'r ffrwyth ar gaeau teras Cheshbona gwinllannoedd Sibma wedi gwywo.Mae'r rhai sy'n rheoli'r cenhedloeddwedi torri eu gwinwydd gorau.Roedden nhw'n cyrraedd hyd at Iaser,ac yn ymestyn i'r anialwch;roedd eu brigau wedi ymleduac yn cyrraedd at y môr.
9 Felly dw i'n wylo gyda Iaserdros winwydd Sibma.Gwlychaf di â'm dagrauCheshbon ac Eleale,am fod y gweiddi llawenam ffrwythau aeddfed dy gynhaeafwedi dod i ben.
10 Mae'r miri a'r hwylwedi ei ysgubo i ffwrdd o'r gerddi.Does dim canu na sŵn dathlui'w glywed yn y gwinllannoedd.Does neb yn sathru'r grawnwini'r cafnau –mae'r bwrlwm wedi tewi.
11 Felly mae fy mol yn murmur dros Moab fel tannau telyn,a'r cwbl sydd yno i dros Cir-cheres.
12 Pan mae pobl Moab yn mynd at yr allor leol,ac yn gweddïo'n daer yn y cysegr,fydd dim byd yn tycio.
13 Dyna'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Moab o'r blaen.
14 Ond mae'r ARGLWYDD yn dweud nawr: Mewn tair blynedd union bydd poblogaeth anferth Moab yn crebachu. Fydd dim hyd yn oed llond dwrn ar ôl – neb o bwys.