Eseia 34 BNET

Barnu y gwledydd i gyd

1 Dewch yma, chi wledydd, i wrando!Gwrandwch ar hyn, chi bobloedd y byd!Boed i'r ddaear a phawb arni wrando;y byd, a phopeth sydd ynddo.

2 Mae'r ARGLWYDD wedi digio gyda'r gwledydd;mae'n wyllt gyda'u holl fyddinoedd;a bydd yn eu dinistrio a'u lladd nhw.

3 Bydd y rhai gaiff eu lladd yn cael eu taflu allan –bydd y drewdod yn ofnadwya bydd y mynyddoedd wedi eu trochi â'u gwaed.

4 Bydd y sêr i gyd yn diffodd,a'r awyr yn cael ei rholio fel sgrôl.Bydd y sêr i gyd yn syrthiofel dail yn disgyn o'r winwydden,neu ffrwyth aeddfed oddi ar goeden ffigys.

5 “Bydd fy nghleddyf i'w weld yn yr awyr,ac edrychwch, bydd yn syrthio ar Edom,ar y bobl dw i wedi eu dedfrydu i'w difrodi.”

6 Mae'r ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed,a'i fodloni gyda brasder anifeiliaid –gwaed ŵyn a bychod geifr,a'r brasder ar arennau hyrddod.Ydy, mae'r ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra,a lladdfa yn Edom.

7 Bydd ychen gwyllt yn syrthio gyda nhw,bustych a theirw.Bydd eu tir wedi socian mewn gwaed,a'r llawr wedi ei orchuddio gan frasder.

8 Mae gan yr ARGLWYDD ddydd i ddial –mae'n bryd i dalu'r pwyth yn ôl ar ran Seion.

9 Bydd afonydd o byg yn gorlifo yn Edom,a bydd ei phridd yn troi'n lafa.Bydd ei thir yn troi'n byg sy'n llosgi,

10 a fydd y tân ddim yn diffodd ddydd na nos;bydd mwg yn codi ohono am byth.Bydd yn gorwedd yn adfeilion am genedlaethau;fydd neb yn cerdded y ffordd honno byth bythoedd.

11 Bydd tylluanod a draenogod yn ei feddiannu;y dylluan wen a'r gigfran fydd yn nythu yno.Bydd Duw yn ei fesur i achosi anhrefnac yn ei bwyso i'w wagio.

12 I ble'r aeth ei huchelwyr?Does dim y fath beth a theyrnas ar ôl!Mae ei harweinwyr i gyd wedi diflannu.

13 Bydd drain yn tyfu yn ei phlastai;danadl a mieri yn ei threfi caerog.Bydd y wlad yn gartref i siacaliaid,ac yn dir i'r estrys fyw ynddo.

14 Bydd ysbrydion yr anialwch a bwganod yn cyfarfod yno,a'r gafr-ddemoniaid yn galw ar ei gilydd.Yno bydd creaduriaid y nosyn gorffwys ac yn nythu,

15 a neidr wenwynig yn gorwedd ar ei hwyau,i'w deor a gofalu amdanynt.A bydd adar rheibus hefyd yn casglu yno,pob un gyda'i gymar.

16 Astudiwch a darllenwch sgroliau'r ARGLWYDD,heb adael dim allan,a heb fethu llinell.Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn y cwbl,a'i ysbryd e sydd wedi eu casglu at ei gilydd.

17 Fe sydd wedi rhoi eu siâr i bob unac wedi rhannu'r tir rhyngddyn nhw hefo llinyn mesur.Bydd yn etifeddiaeth iddyn nhw am byth –byddan nhw'n byw yno ar hyd yr oesoedd.