Eseia 11 BNET

Heddwch o'r diwedd

1 Ond bydd brigyn newydd yn tyfu o foncyff Jesse,a changen ffrwythlon yn tyfu o'i wreiddiau.

2 Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno:ysbryd doethineb rhyfeddol,ysbryd strategaeth sicr,ysbryd defosiwn a pharch at yr ARGLWYDD.

3 Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i'r ARGLWYDD:fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf,nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si.

4 Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn degac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i'r rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir.Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro'r ddaeara bydd yn lladd y rhai drwg gyda'i anadl.

5 Bydd cyfiawnder a ffyddlondebfel belt am ei ganol.

6 Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda'r oen,a'r llewpard yn gorwedd i lawr gyda'r myn gafr.Bydd y llo a'r llew ifanc yn pori gyda'i gilydd,a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw.

7 Bydd y fuwch a'r arth yn pori gyda'i gilydd,a'u rhai ifanc yn cydorwedd;a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych.

8 Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobraa phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber.

9 Fydd neb yn gwneud drwgnac yn dinistrio dimar y mynydd sydd wedi ei gysegru i mi.Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr,bydd y ddaear yn llawn pobl sy'n nabod yr ARGLWYDD.

Duw yn rhyddhau ei bobl

10 Bryd hynny,bydd y ffaith fod boncyff Jesse yn dal i sefyllyn arwydd clir i bobloedd –bydd cenhedloedd yn dod ato am gyngor,a bydd ei le yn ysblennydd.

11 Bryd hynny, bydd y Meistr yn mynd ati i ryddhau gweddill ei bobl o wlad Asyria – ac hefyd o'r Aifft, Pathros, Dwyrain Affrica, Elam, Babilonia, Chamath, a'r ynysoedd.

12 Bydd yn codi baner i alw'r cenhedloedd,ac yn casglu'r bobl gafodd eu halltudio o Israel.Bydd yn casglu pobl Jwda gafodd eu gwasgaruo bedwar ban byd.

13 Yna bydd cenfigen Effraim yn darfoda bydd yr elyniaeth rhyngddi â Jwda yn dod i ben.Fydd Effraim ddim yn cenfigennu wrth Jwda,a fydd Jwda ddim yn plagio Effraim.

14 Byddan nhw'n ymosod ar y Philistiaid i'r gorllewin,ac yn ysbeilio pobl y dwyrain gyda'i gilydd.Bydd Edom a Moab yn cael eu rheoli ganddyn nhw,a bydd pobl Ammon fel gwas bach iddyn nhw.

15 Bydd yr ARGLWYDD yn sychu Môr yr Aifft.Bydd yn codi ei law dros Afon Ewffratesac yn anfon gwynt ffyrnig i'w hollti'n saith sychnant,er mwyn gallu ei chroesi heb wlychu'r traed.

16 Felly bydd priffordd ar gyfer gweddill ei boblsydd wedi eu gadael yn Asyria,fel yr un oedd i bobl Israelpan ddaethon nhw allan o wlad yr Aifft.