Eseia 57 BNET

Pobl ffyddlon Duw yn dioddef

1 Mae rhywun cyfiawn yn marw,a does neb yn malio.Mae pobl ffyddlon yn cael eu cymryd,a does neb yn sylweddolifod y cyfiawn yn cael eu symudi'w harbed rhag y drwg sy'n dod.

2 Bydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawnyn profi heddwch,ac yn cael gorffwys ar eu gwlâu.

3 Dewch yma, chi blant y rhai sy'n dweud ffortiwn;disgynyddion y rhai sy'n godinebu ac yn puteinio!

4 Ar ben bwy ydych chi'n gwneud sbort?Ar bwy ydych chi'n gwneud ystumiauac yn tynnu tafod?Dych chi'n blant i rebeliaid,yn ddisgynyddion rhai sy'n dweud celwydd;

5 a'ch nwydau rhywiol yn llosgi wrth addolidan bob coeden ddeiliog.Chi sy'n aberthu plant yn y dyffrynnoedd,ac yn hafnau'r creigiau.

6 Cerrig llithrig yr hafnau ydy dy gyfran di;mentra di gyda nhw!Iddyn nhw rwyt ti wedi tywallt dy offrwm o ddiod,a chyflwyno dy offrwm o fwyd.Ddylwn i ymatal rhag dial yn wyneb hyn i gyd?

7 Rwyt yn gwneud dy welyar ben pob mynydd uchel;ac yn mynd yno i gyflwyno dy aberthau.

8 Er fod arwydd wedi ei osodtu ôl i ffrâm drws dy dŷ,ti wedi ngadael ia gorwedd yn agored ar dy wely.Ti wedi ymrwymo dy hun i'r duwiau,wedi mwynhau gorweddian yn noetha dewis dilyn dy chwantau.

9 Yna mynd i lawr i weld y breningyda rhoddion o olew a llwyth o bersawr.Anfonaist negeswyr at un oedd yn bell i ffwrdd,hyd yn oed i Annwn!

10 Er fod yr holl deithio'n dy flino,wnest ti ddim rhoi i fyny!Llwyddaist i gael digon o egnii ddal ati.

11 Pwy oedd yn dy boenia gwneud i ti ofni a dweud celwydd?Doeddet ti ddim yn meddwl amdana inac yn cymryd unrhyw sylw ohona i.Ai'r rheswm wyt ti ddim yn fy ofni iydy mod i wedi bod yn ddistaw mor hir?

12 Gwna i ddweud beth dw i'n feddwl o dy weithredoedd da:fydd y rheiny ddim yn gallu dy helpu!

13 A fydd dy gasgliad o dduwiau ddim yn dy helpupan fyddi di'n gweiddi –does dim bywyd nag anadl ynddyn nhw!Ond bydd y rhai sy'n troi ata i yn meddiannu'r tirac yn etifeddu fy mynydd cysegredig i.

Duw yn addo helpu ei bobl

14 Dyma fydd yn cael ei ddweud:Adeiladwch! Adeiladwch! Cliriwch y ffordd!Symudwch bob rhwystr o ffordd fy mhobl!

15 Dyma mae'r Un uchel iawn yn ei ddweud,yr un sy'n aros am byth, a'i enw yn sanctaidd:Dw i'n byw mewn lle uchel a sanctaidd,ond dw i hefyd gyda'r rhai gostyngedig sydd wedi eu sathru –dw i'n adfywio'r rhai gostyngedig,ac yn codi calon y rhai sydd wedi eu sathru.

16 Dw i ddim yn mynd i ddadlau drwy'r adeg,na dal dig am byth.Dw i ddim eisiau i ysbryd y bobl ballu,gan mai fi sy'n rhoi anadl iddyn nhw fyw.

17 Roeddwn i'n ddig am eu bod yn elwa trwy drais.Dyma fi'n eu taro, a troi i ffwrdd wedi digio,ond roedden nhw'n dal i fynd eu ffordd eu hunain!

18 Do, dw i wedi gweld beth mae nhw'n wneud,ond dw i'n mynd i'w hiacháu nhw.Dw i'n mynd i'w harwain a'u cysuro;cysuro'r rhai sy'n galaru,

19 a rhoi lle iddyn nhw ddathlu:Heddwch a llwyddiant i bawb yn bell ac agos!Dw i'n mynd i'w hiacháu nhw,”—meddai'r ARGLWYDD.

20 “Ond bydd y rhai drwg fel môr stormussy'n methu bod yn dawel,a'i ddŵr yn corddi'r llaid a'r baw.

21 Fydd dim heddwch i bobl ddrwg,”—meddai fy Nuw.