Eseia 38 BNET

Heseceia'n cael ei daro'n wael, a bron yn marw

1 Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw.Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; dwyt ti ddim yn mynd i wella.”

2 Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo,

3 “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crïo.

4 Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Eseia:

5 “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia:‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud (Duw Dafydd dy dad): “Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti.

6 Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma.”

7 “‘A dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i brofi y bydd e'n gwneud beth mae e wedi ei addo:

8 Edrych! Dw i'n mynd i wneud i'r cysgod sydd wedi disgyn ar risiau Ahas fynd yn ôl i fyny ddeg gris.’” Yna dyma gysgod yr haul yn codi oddi ar ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi disgyn arnyn nhw.

9 Dyma ysgrifennodd Heseceia, brenin Jwda, ar ôl iddo wella o'i salwch:

10 “Dywedais,‘Dw i'n mynd i farw, a minnau ond canol oed.Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwnam weddill fy nyddiau.’

11 Dywedais:‘Ga i byth weld yr ARGLWYDDyn y bywyd hwn eto;nac edrych ar y ddynoliaethfel y rhai sydd wedi peidio â bod.’

12 Mae fy mywyd wedi ei gymryd oddi arna ia'i symud fel pabell bugail.Roedd fy mywyd wedi ei rholio i fyny fel lliainwedi ei dorri i ffwrdd o'r wŷdd.Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.

13 Yn y bore, roedd fel petai llew yn malu fy esgyrn i gyd.Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.

14 Dw i'n trydar fel gwennol neu durtur,ac yn cŵan fel colomen,wrth i'm llygaid blinedig fethu edrych i fyny.‘Fy ARGLWYDD! Dw i'n cael fy llethu!Achub fi!’

15 Beth alla i ei ddweud?Dwedodd wrtho i beth fyddai'n ei wneud,a dyna wnaeth e!Roedd rhaid i mi gerdded yn ofalusam fod fy enaid mor chwerw.

16 Mae fy arglwydd wedi fy nghuddio,ac mae bywyd yn fy nghalon eto.Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gorffwys i mi.‘Rwyt ti'n fy iacháu ac wedi fy nghadw'n fyw.’

17 Yn wir, roedd yr holl chwerwder ymayn lles i mi:‘Ceraist fi, a'm hachub o bwll difodiant,a thaflu fy holl bechodau tu ôl i ti.

18 Dydy'r rhai sydd yn Annwn ddim yn diolch i ti,a dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di.Dydy'r rhai sydd wedi disgyn i'r pwllddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di.

19 Y rhai byw, dim ond y rhai bywsy'n gallu diolch i tifel dw i'n gwneud heddiw.Mae tad yn dweud wrth ei blantam dy ffyddlondeb di:

20 Mae'r ARGLWYDD wedi'n hachub ni!Gadewch i ni ganu offerynnau cerddyn nheml yr ARGLWYDDweddill ein bywydau!’”

21 Roedd Eseia wedi dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi eu gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.”

22 Roedd Heseceia wedi gofyn, “Pa arwydd ga i y bydda i'n mynd i fyny i deml yr ARGLWYDD eto?”