1 Gwae'r rhai sy'n rhoi dyfarniad anghyfiawnac ysgrifennu deddfau sy'n gormesu pobl.
2 Maen nhw'n dwyn cyfiawnder oddi ar bobl dlawd,a chymryd eu hawliau oddi ar yr anghenus.Maen nhw'n dwyn oddi ar y gweddwon,ac yn ysbeilio plant amddifad!
3 Beth wnewch chi ar ddiwrnod y cosbi,pan fydd dinistr yn dod o bell?At bwy fyddwch chi'n rhedeg am help?I ble'r ewch chi i guddio eich trysor?
4 Bydd rhaid crymu gyda'r carcharorion eraill,neu syrthio gyda phawb arall sy'n cael eu lladd!Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.