15 Ydy bwyell o unrhyw werth heb rywun i'w thrin?Ydy llif yn bwysicach na'r un sy'n ei defnyddio?Fel petai gwialen yn chwifio'r dyn sy'n ei chodi!Fel petai ffon yn codi'r person sydd ddim yn bren!
16 Felly, bydd y Meistr—yr ARGLWYDD holl-bwerus—yn anfon afiechyd fydd yn nychu ei filwyr iach;bydd twymyn yn taro ei ysblanderac yn llosgi fel tân.
17 Bydd Golau Israel yn troi'n dân,a'r Un Sanctaidd yn fflam.Bydd yn llosgi'r drain a'r mieri mewn diwrnod,
18 a dinistrio'r goedwig a'r berllan yn llwyr.Bydd fel bywyd dyn sâl yn diflannu.
19 Bydd cyn lleied o goed ar ôlbydd plentyn bach yn gallu eu cyfri!
20 Bryd hynny,fydd y rhai sydd ar ôl yn Israela'r rhai hynny o bobl Jacob sydd wedi diancddim yn pwyso ar y genedl wnaeth eu gorthrymu nhw;Byddan nhw'n pwyso'n llwyrar yr ARGLWYDD, Un sanctaidd Israel.
21 Bydd rhan fechan,ie, rhan fechan o Jacobyn troi yn ôl at y Duw cryf.