17 Bydd Golau Israel yn troi'n dân,a'r Un Sanctaidd yn fflam.Bydd yn llosgi'r drain a'r mieri mewn diwrnod,
18 a dinistrio'r goedwig a'r berllan yn llwyr.Bydd fel bywyd dyn sâl yn diflannu.
19 Bydd cyn lleied o goed ar ôlbydd plentyn bach yn gallu eu cyfri!
20 Bryd hynny,fydd y rhai sydd ar ôl yn Israela'r rhai hynny o bobl Jacob sydd wedi diancddim yn pwyso ar y genedl wnaeth eu gorthrymu nhw;Byddan nhw'n pwyso'n llwyrar yr ARGLWYDD, Un sanctaidd Israel.
21 Bydd rhan fechan,ie, rhan fechan o Jacobyn troi yn ôl at y Duw cryf.
22 Israel, hyd yn oed petai dy boblmor niferus â thywod y môr,dim ond nifer fechan fydd yn dod yn ôl.Mae'r dinistr yn sicr.Mae'r gosb sydd wedi ei haeddu yn dod fel llifogydd!
23 Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn barod i ddod â'r dinistr sydd wedi ei ddyfarnu ar y tir.