24 Felly, dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud: “O fy mhobl, sy'n byw yn Seion, peidiwch bod ag ofn Asyria – er iddo dy daro di gyda'i wialen a dy fygwth gyda'i ffon fel y gwnaeth yr Eifftiaid.
25 Yn fuan iawn bydd fy nig wedi ei dawelu, a bydda i'n troi i'w dinistrio nhw.”
26 Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn chwifio ei chwip uwch eu pennau, fel y gwnaeth pan drawodd Midian wrth Graig Oreb. Bydd yn codi ei wialen fel y gwnaeth dros yr Eifftiaid wrth y môr.
27 Bryd hynny,bydd y pwysau'n cael ei symud oddi ar dy ysgwyddau di,a bydd iau Assyria'n cael ei dorri oddi ar dy waram ei fod mor hunanfodlon.
28 Daeth y gelyn ac ymosod ar Aiath,ac yna aeth ymlaen i Migroncyn paratoi ei gêr yn Michmas.
29 Yna croesi'r bwlchac aros yn Geba dros nos.Roedd Rama wedi dychryn,a pobl Gibea, tref Saul, yn ffoi.
30 “Rho sgrech, Bath-galîm!Gwrando'n astud, Laisha!Ateb hi, Anathoth!”