25 Yn fuan iawn bydd fy nig wedi ei dawelu, a bydda i'n troi i'w dinistrio nhw.”
26 Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn chwifio ei chwip uwch eu pennau, fel y gwnaeth pan drawodd Midian wrth Graig Oreb. Bydd yn codi ei wialen fel y gwnaeth dros yr Eifftiaid wrth y môr.
27 Bryd hynny,bydd y pwysau'n cael ei symud oddi ar dy ysgwyddau di,a bydd iau Assyria'n cael ei dorri oddi ar dy waram ei fod mor hunanfodlon.
28 Daeth y gelyn ac ymosod ar Aiath,ac yna aeth ymlaen i Migroncyn paratoi ei gêr yn Michmas.
29 Yna croesi'r bwlchac aros yn Geba dros nos.Roedd Rama wedi dychryn,a pobl Gibea, tref Saul, yn ffoi.
30 “Rho sgrech, Bath-galîm!Gwrando'n astud, Laisha!Ateb hi, Anathoth!”
31 Mae Madmena yn ffoi,a phobl Gebim yn cuddio.