27 Bryd hynny,bydd y pwysau'n cael ei symud oddi ar dy ysgwyddau di,a bydd iau Assyria'n cael ei dorri oddi ar dy waram ei fod mor hunanfodlon.
28 Daeth y gelyn ac ymosod ar Aiath,ac yna aeth ymlaen i Migroncyn paratoi ei gêr yn Michmas.
29 Yna croesi'r bwlchac aros yn Geba dros nos.Roedd Rama wedi dychryn,a pobl Gibea, tref Saul, yn ffoi.
30 “Rho sgrech, Bath-galîm!Gwrando'n astud, Laisha!Ateb hi, Anathoth!”
31 Mae Madmena yn ffoi,a phobl Gebim yn cuddio.
32 Heddiw mae'r gelyn yn Nobyn ysgwyd ei ddwrn bygythiolyn erbyn mynydd Seiona bryn Jerwsalem!
33 Edrych! Mae'r Meistr—yr ARGLWYDD holl-bwerus—yn mynd i hollti canghennau'r coed gyda nerth brawychus.Bydd yn torri'r coed talaf i lawr,a bydd y rhai uchel yn syrthio.