4 Bydd rhaid crymu gyda'r carcharorion eraill,neu syrthio gyda phawb arall sy'n cael eu lladd!Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
5 Gwae Asyria,y wialen dw i'n ei defnyddio pan dw i'n ddig,Mae'r ffon sy'n dangos fy mod i wedi gwylltioyn ei llaw hi.
6 Dw i'n ei hanfon yn erbyn cenedl annuwiol,ac yn dweud wrthi am ymosod ar y bobl sy'n fy nigio i;i ysbeilio a rheibio a'u sathru dan draedfel baw ar y stryd.
7 Ond dim dyna ydy bwriad Asyria –rhywbeth arall sydd ganddi hi mewn golwg.Ei bwriad hi ydy dinistrio,a difa gwledydd yn llwyr – llawer ohonyn nhw!
8 Mae'n meddwl,“Mae brenhinoedd wedi dod yn swyddogion i mi!
9 Onid ydy Calno yr un fath â Carcemish?a Chamath fel Arpad?a Samaria fel Damascus?
10 Gan fy mod i wedi cael gafaelyn y gwledydd hynny a'u heilun-dduwiau –gwledydd oedd â llawer mwy o ddelwauna Jerwsalem a Samaria –