3 Byddwch yn codi dŵr yn llaweno ffynhonnau achubiaeth.
4 Byddwch yn dweud bryd hynny:“Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw.Dwedwch wrth bobl y gwledydd beth wnaeth e;Cyhoeddwch fod ei enw wedi ei godi'n uchel.
5 Canwch salmau i'r ARGLWYDD,am iddo wneud peth mawr!Gwnewch yn siŵr fod y byd i gydyn gwybod am y peth!
6 Bloeddiwch ganu'n llawen,chi sy'n byw yn Seion!Mae'r Un sydd yn eich plith yn fawr –Un Sanctaidd Israel.”