17 “Ond edrychwch,dw i'n codi'r Mediaid yn eu herbyn nhw.Fydd arian ddim yn rhwystro'r rheiny,nac aur yn eu denu i droi.
18 Bydd eu bwâu yn taro'r dynion ifanc i lawr.Fydd dim tosturi at fabis bach,a fyddan nhw ddim yn arbed bywyd y plant.”
19 Bydd Babilon, y deyrnas harddaf– ysblander a balchder ei phobl –wedi ei bwrw i lawr gan Dduwfel Sodom a Gomorra.
20 Fydd neb yn byw yno byth eto;neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau –dim bedowin yn codi ei babell,na bugail yn gorffwys ei braidd.
21 Bydd ysbrydion yr anialwch yn gorwedd yno,a'r tai yn llawn creaduriaid yn udo.Bydd y dylluan yn byw yno,a'r gafr-ddemoniaid yn llamu o gwmpas.
22 Bydd bwganod yn sgrechian yn ei hadfeilion,a siacaliaid yn ei phlastai.Mae ei hamser bron ar ben;fydd ei dyddiau ddim yn cael eu hestyn.