3 Dw i wedi rhoi gorchymyn i'r rhai dw i wedi eu dewis,a galw fy milwyr cryfion i ddangos mor ddig dw i;milwyr balch sy'n brolio.”
4 Gwrandwch! Mae sŵn cynnwrf ar y mynyddoedd –fel byddin enfawr;Gwrandwch! Sŵn twrw'r gwledydd!Cenhedloedd yn casglu at ei gilydd!Mae'r ARGLWYDD holl-bwerusyn casglu byddin i ryfel!
5 Maen nhw'n dod o wlad bell,y tu hwnt i'r gorwel –yr ARGLWYDD ac arfau ei lid,yn dod i ddinistrio'r holl dir!
6 Udwch!Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos!Mae'n dod fel dinistr oddi wrth yr Un sy'n rheoli popeth.
7 Felly, bydd pob llaw yn llipa,a phawb wedi digalonni
8 a'u llethu gan ddychryn.Bydd poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,a byddan nhw'n gwingo mewn poenfel gwraig yn cael babi.Byddan nhw'n syllu'n syn ar ei gilydd,a'u hwynebau'n gwrido o gywilydd.
9 Ydy! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn dod;dydd creulon ei lid ffyrnig a thanbaid,i droi'r ddaear yn anialwch diffaith,a chael gwared â phechaduriaid ohoni.