6 Udwch!Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos!Mae'n dod fel dinistr oddi wrth yr Un sy'n rheoli popeth.
7 Felly, bydd pob llaw yn llipa,a phawb wedi digalonni
8 a'u llethu gan ddychryn.Bydd poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,a byddan nhw'n gwingo mewn poenfel gwraig yn cael babi.Byddan nhw'n syllu'n syn ar ei gilydd,a'u hwynebau'n gwrido o gywilydd.
9 Ydy! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn dod;dydd creulon ei lid ffyrnig a thanbaid,i droi'r ddaear yn anialwch diffaith,a chael gwared â phechaduriaid ohoni.
10 Fydd y sêr a'u clystyrauddim yn rhoi golau.Bydd yr haul yn dywyll pan fydd yn codi,a'r lleuad ddim yn llewyrchu.
11 “Bydda i'n cosbi'r byd am ei holl ddrygioni,a phobl ddrwg am eu pechod.Bydda i'n rhoi diwedd ar falchder pobl haerllug,ac yn torri crib y rhai creulon.
12 Bydd pobl yn fwy prin nag aur pur –yn fwy prin nag aur Offir.