14 Dw i'n mynd i ddringo ar gefn y cymylau,a gwneud fy hun fel y Duw Goruchaf.”
15 O'r fath gwymp! –Rwyt wedi dod i lawr i fyd y meirw,i'r lle dyfnaf yn y Pwll!
16 Mae pobl yn dy weld ac yn syllu arnat,ac yn pendroni:“Ai hwn ydy'r dynwnaeth i'r ddaear grynu,a dychryn teyrnasoedd?
17 Ai fe ydy'r un drodd y byd yn anialwch,a dinistrio'i ddinasoedd –heb fyth ryddhau ei garcharorion i fynd adre?”’
18 Mae brenhinoedd y gwledydd i gyd– pob un ohonyn nhw –yn gorwedd yn grand yn eu beddau eu hunain.
19 Ond ti? – cest ti dy adael heb dy gladdu,yn ffiaidd, fel ffetws wedi ei erthylu.Fel corff marw yn y dillad a wisgaipan gafodd ei drywanu gan y cleddyf.Fel y rhai sy'n syrthio i waelod y pwll,neu gorff yn cael ei sathru dan draed.
20 Gei di ddim angladd fel brenhinoedd eraill,am dy fod ti wedi dinistrio dy wlad dy huna lladd dy bobl dy hun.Boed i neb byth eto gofio'rfath hil o bobl ddrwg!