2 Bydd pobloedd eraill yn eu harwain yn ôl i'w mamwlad.Bydd pobl Jacob yn rhannu tir yr ARGLWYDD rhyngddyn nhw,i'w drin gan eu gweision a'u morynion.Byddan nhw'n caethiwo'r rhai wnaeth eu caethiwo nhw,ac yn feistri ar y rhai wnaeth eu gorthrymu nhw.
3 Pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi llonydd i ti o dy holl drafferthion a dy helbulon, a'r holl waith caled pan oeddet ti'n gaethwas,
4 byddi'n adrodd y gerdd ddychan yma am frenin Babilon:“Ble mae'r gormeswr wedi diflannu?Mae ei falchder wedi dod i ben!
5 Mae'r ARGLWYDD wedi torri ffon y rhai drwg,a gwialen y gormeswyr.
6 Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloeddyn ddi-stop.Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredda'u herlid yn ddi-baid.
7 Bellach mae'r ddaear yn dawel a digyffro;ac mae'r bobl yn canu'n llawen.
8 Mae hyd yn oed y coed pinwydd yn hapus,a'r coed cedrwydd yn Libanus:‘Ers i ti gael dy fwrw i lawr,dydy'r torrwr coed ddim yn dod yn ein herbyn ni!’