23 Bydda i'n llenwi'r wlad â draenogoda'i throi'n gors o byllau dŵr mwdlyd.Bydda i'n ei hysgubo i ffwrdd hefo brwsh dinistr,”—yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.
24 Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi tyngu llw:“Bydd popeth yn digwydd yn union fel dwedais i;bydd fy nghynlluniau yn dod yn wir.
25 Bydda i'n dryllio grym Asyria yn fy nhir,ac yn ei sathru ar fy mryniau.Bydd ei iau yn cael ei dynnu oddi arnyn nhw,a'r baich trwm yn disgyn oddi ar eu cefnau.
26 Dyna'r cynllun sydd gen iar gyfer y ddaear gyfan.Dyna pam mae fy llaw yn barodi ddelio gyda'r cenhedloedd i gyd.”
27 Mae gan yr ARGLWYDD holl-bwerus gynllun –Pwy sy'n mynd i'w rwystro?Mae ei law yn barod i weithredu –Pwy sy'n mynd i'w ddal yn ôl?
28 Neges gafodd ei roi yn y flwyddyn y buodd y Brenin Ahas farw:
29 Peidiwch dathlu, chi'r Philistiaid i gyd,am fod y ffon fuodd yn eich curo chi wedi ei thorri.O wreiddyn y neidr bydd gwiber yn codi,gwiber wibiog fydd ei ffrwyth.