29 Peidiwch dathlu, chi'r Philistiaid i gyd,am fod y ffon fuodd yn eich curo chi wedi ei thorri.O wreiddyn y neidr bydd gwiber yn codi,gwiber wibiog fydd ei ffrwyth.
30 Bydd y tlotaf o'r tlawd yn cael pori,a'r rhai anghenus yn gorwedd yn ddiogel.Ond bydda i'n defnyddio newyn i ddinistrio dy wreiddyn,a bydd yn lladd pawb sydd ar ôl.
31 Udwch wrth y giatiau; sgrechian yn y ddinas;Mae Philistia i gyd mewn dychryn!Achos mae cwmwl yn dod o'r gogledd,a does neb yn ei rhengoedd yn llusgo eu traed.
32 Beth ydy'r ateb i negeswyr y genedl?Fod yr ARGLWYDD wedi gwneud Seion yn saff,a bod lloches yno i'w bobl anghenus.