3 Pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi llonydd i ti o dy holl drafferthion a dy helbulon, a'r holl waith caled pan oeddet ti'n gaethwas,
4 byddi'n adrodd y gerdd ddychan yma am frenin Babilon:“Ble mae'r gormeswr wedi diflannu?Mae ei falchder wedi dod i ben!
5 Mae'r ARGLWYDD wedi torri ffon y rhai drwg,a gwialen y gormeswyr.
6 Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloeddyn ddi-stop.Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredda'u herlid yn ddi-baid.
7 Bellach mae'r ddaear yn dawel a digyffro;ac mae'r bobl yn canu'n llawen.
8 Mae hyd yn oed y coed pinwydd yn hapus,a'r coed cedrwydd yn Libanus:‘Ers i ti gael dy fwrw i lawr,dydy'r torrwr coed ddim yn dod yn ein herbyn ni!’
9 Mae byd y meirw isod mewn cyffro,yn barod i dy groesawu di –Bydd y meirw'n deffro, sef arweinwyr y byd,a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaearyn codi oddi ar eu gorseddau.