9 Mae byd y meirw isod mewn cyffro,yn barod i dy groesawu di –Bydd y meirw'n deffro, sef arweinwyr y byd,a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaearyn codi oddi ar eu gorseddau.
10 Byddan nhw i gyd yn dy gyfarch di,‘Felly, ti hyd yn oed! –rwyt tithau'n wan fel ni!
11 Mae dy holl rwysg a sain cerdd dy liwtiauwedi ei dynnu i lawr i Annwn!Bydd y cynrhon yn wely oddi tanata phryfed genwair yn flanced drosot ti!
12 Y fath gwymp! –Ti, seren ddisglair, mab y wawr,wedi syrthio o'r nefoedd!Ti wedi dy dorri i lawr i'r ddaear –ti oedd yn sathru'r holl wledydd!
13 Roeddet ti'n meddwl i ti dy hun,“Dw i'n mynd i ddringo i'r nefoedd,a gosod fy ngorseddyn uwch na sêr Duw.Dw i'n mynd i eistedd ar Fynydd y gynulleidfayn y gogledd pell.
14 Dw i'n mynd i ddringo ar gefn y cymylau,a gwneud fy hun fel y Duw Goruchaf.”
15 O'r fath gwymp! –Rwyt wedi dod i lawr i fyd y meirw,i'r lle dyfnaf yn y Pwll!