2 Maen nhw wedi mynd i'r deml,ac i'r allor leol yn Dibon i wylo.Mae Moab yn udoam beth ddigwyddodd i Nebo a Medeba.Mae pob pen yn foel,pob barf wedi ei siafio,
3 ac maen nhw'n gwisgo sachliain yn y strydoedd.Mae pawb yn udoac yn beichio crïoar bennau'r tai ac yn y sgwariau.
4 Mae sgrechian yn Cheshbon ac Eleale,ac mae'r sŵn i'w glywed mor bell â Iahats.Felly, mae milwyr Moab yn gweiddia crynu trwyddynt mewn ofn.
5 Mae fy nghalon yn gwaedu dros Moab –a'r ffoaduriaid sy'n dianc i Soarac Eglath-shalisheia.Maen nhw'n wylo wrth ddringoar lethr LwchithMae gwaedd dinistr yn codiar y ffordd i Choronaïm.
6 Mae dyfroedd Nimrim wedi sychu;mae'r glaswellt wedi gwywo,a phob tyfiant yn methu.Mae pob planhigyn wedi diflannu.
7 Felly, maen nhw'n cario eu cynilion a'u heiddodros Sychnant yr Helyg.
8 Ydy, mae sŵn y sgrechian wedi lledudrwy wlad Moab i gyd:mae'r udo i'w glywed mor bell ag Eglaim,hyd yn oed yn Beër-elim!