1 Neges am Damascus.“Edrychwch ar Damascus!Dydy hi ddim yn ddinas bellach –mae hi'n bentwr o gerrig!
2 Bydd ei phentrefi yn wag am byth:lle i breiddiau orweddheb neb i'w dychryn.
3 Bydd trefi caerog Effraim,a sofraniaeth Damascus yn diflannu.Bydd y rhai sydd ar ôl yn Syriayn yr un cyflwr ‛gwych‛ ag Israel!”—yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.
4 “Bryd hynny, bydd gwychder Jacob wedi pylu,a'i gorff iach yn denau fel sgerbwd:
5 Yn lle bod fel cae o ŷdyn cael ei gynaeafu,a breichiau'r medelwr yn llawn,bydd fel y tywysennau sy'n cael eu lloffayn Nyffryn Reffaïm –