5 Yn lle bod fel cae o ŷdyn cael ei gynaeafu,a breichiau'r medelwr yn llawn,bydd fel y tywysennau sy'n cael eu lloffayn Nyffryn Reffaïm –
6 dim ond ychydig loffion fydd ar ôl.Bydd fel ysgwyd coeden olewydd,a dim ond dau neu dri ffrwyth yn disgyn o'r brigau uchaf,a pedwar neu bump o'r prif ganghennau,”—meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel.
7 Bryd hynny, bydd pobl yn troi at eu Crëwr.Byddan nhw'n edrych at Un Sanctaidd Israel am help,
8 yn lle syllu ar yr allorau godon nhw,polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth– eu gwaith llaw eu hunain.
9 Bryd hynny, bydd eu trefi caerog fel yr adfeilion adawyd gan yr Amoriaid a'r Hefiaid pan ymosododd Israel arnyn nhw – wedi eu dinistrio'n llwyr.
10 Rwyt wedi anghofio'r Duw wnaeth dy achub;ac anwybyddu'r Graig – dy gaer ddiogel.Felly rwyt yn trin gerddi i'r "Anwylyd",a plannu sbrigyn i dduw estron!
11 Ti'n codi ffens o'i gwmpas y diwrnod rwyt yn ei blannu;ei weld yn blaguro y bore hwnnwa disgwyl pentwr o gynhaeaf!Ond y cwbl gei di fydd pryder a poen na ellir ei wella!