8 yn lle syllu ar yr allorau godon nhw,polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth– eu gwaith llaw eu hunain.
9 Bryd hynny, bydd eu trefi caerog fel yr adfeilion adawyd gan yr Amoriaid a'r Hefiaid pan ymosododd Israel arnyn nhw – wedi eu dinistrio'n llwyr.
10 Rwyt wedi anghofio'r Duw wnaeth dy achub;ac anwybyddu'r Graig – dy gaer ddiogel.Felly rwyt yn trin gerddi i'r "Anwylyd",a plannu sbrigyn i dduw estron!
11 Ti'n codi ffens o'i gwmpas y diwrnod rwyt yn ei blannu;ei weld yn blaguro y bore hwnnwa disgwyl pentwr o gynhaeaf!Ond y cwbl gei di fydd pryder a poen na ellir ei wella!
12 Gwae! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod!Maen nhw'n rhuo fel tonnau'r môr;Mae sŵn y rhuo fel sŵn dŵr mawr yn llifo.
13 Ond er bod y bobl yn rhuo fel sŵn dŵr mawr,bydd Duw'n eu ceryddu, a byddan nhw'n ffoi.Byddan nhw'n cael eu gyrru fel mân us o flaen y gwynt,neu blu ysgall o flaen corwynt.
14 Fin nos, daw dychryn sydyn,ond erbyn y bore does dim ar ôl.Dyna fydd yn digwydd i'r rhai sy'n ein hysbeilio,dyna sy'n disgwyl y rhai sy'n ein rheibio!