1 Neges am yr Aifft.Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl cyflym,ac yn dod i'r Aifft.Bydd eilunod diwerth yr Aifft yn crynu o'i flaen,a bydd yr Eifftiaid yn digalonni.
2 “Achos bydd gwrthdaro sifil yn yr Aifft;bydd yr Eifftwyr yn ymladd ei gilydd,un yn erbyn y llall,dinas yn erbyn dinas,teyrnas yn erbyn teyrnas.
3 Bydd yr Aifft wedi anobeithio,a bydda i wedi drysu ei chynlluniau.Byddan nhw'n troi at eu heilunod diwerth am arweiniad,ac at yr ysbrydegwyr, y dewiniaid a'r rhai sy'n dweud ffortiwn.
4 Bydda i'n rhoi'r Eifftiaidyn nwylo meistri gwaith caled,a bydd brenin creulon yn teyrnasu arnyn nhw.”—y Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.
5 Bydd yr Afon Nil yn sychu,a gwely'r afon yn grasdir sych.
6 Bydd y camlesi yn drewi,canghennau'r Afon Nil yn sychu,a'r brwyn a'r hesg yn pydru.