14 Mae'r ARGLWYDD wedi ei chymysgu a'i drysu,a gwneud iddi faglu dros bobman,fel meddwyn yn mynd igam-ogam yn ei gyfog.
15 All neb wneud dim i helpu'r Aifft –pen na chynffon,cangen balmwydd na brwynen.
16 Bryd hynny bydd yr Eifftiaid yn wan fel merched. Byddan nhw'n crynu mewn ofn am fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn codi ei law i'w taro nhw.
17 Bydd sôn am Jwda'n codi dychryn ar yr Aifft. Bydd pawb fydd yn cofio ei arwyddion yn crynu wrth feddwl am beth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn bwriadu ei wneud iddyn nhw.
18 Bryd hynny bydd pum tref yn yr Aifft yn siarad iaith Canaan ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Dinas yr Haul fydd enw un ohonyn nhw.
19 Bryd hynny bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a colofn wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD ar y ffin.
20 Bydd yn arwydd i atgoffa'r Aifft pwy ydy'r ARGLWYDD holl-bwerus. Pan fyddan nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD am help yn erbyn y rhai sy'n eu gorthrymu nhw, bydd e'n anfon un i'w hachub nhw ac ymladd drostyn nhw.