17 Bydd sôn am Jwda'n codi dychryn ar yr Aifft. Bydd pawb fydd yn cofio ei arwyddion yn crynu wrth feddwl am beth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn bwriadu ei wneud iddyn nhw.
18 Bryd hynny bydd pum tref yn yr Aifft yn siarad iaith Canaan ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Dinas yr Haul fydd enw un ohonyn nhw.
19 Bryd hynny bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a colofn wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD ar y ffin.
20 Bydd yn arwydd i atgoffa'r Aifft pwy ydy'r ARGLWYDD holl-bwerus. Pan fyddan nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD am help yn erbyn y rhai sy'n eu gorthrymu nhw, bydd e'n anfon un i'w hachub nhw ac ymladd drostyn nhw.
21 Achos bydd yr ARGLWYDD yn datguddio ei hun i'r Eifftiaid, a byddan nhw'n dod i'w nabod e bryd hynny. Byddan nhw'n ei addoli gydag aberth ac offrwm o rawn, yn gwneud addunedau iddo, ac yn eu cadw.
22 Os bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft gyda phla, bydd yn ei tharo ac yna yn ei gwella. Os byddan nhw'n troi yn ôl at yr ARGLWYDD, bydd e'n ymateb iddyn nhw ac yn eu hiacháu nhw.
23 Bryd hynny, bydd priffordd o'r Aifft i Asyria. Bydd yr Asyriaid yn mynd i'r Aifft, a'r Eifftiaid yn mynd i Asyria, a bydd yr Eifftiaid a'r Asyriaid yn addoli gyda'i gilydd.