3 Bydd yr Aifft wedi anobeithio,a bydda i wedi drysu ei chynlluniau.Byddan nhw'n troi at eu heilunod diwerth am arweiniad,ac at yr ysbrydegwyr, y dewiniaid a'r rhai sy'n dweud ffortiwn.
4 Bydda i'n rhoi'r Eifftiaidyn nwylo meistri gwaith caled,a bydd brenin creulon yn teyrnasu arnyn nhw.”—y Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.
5 Bydd yr Afon Nil yn sychu,a gwely'r afon yn grasdir sych.
6 Bydd y camlesi yn drewi,canghennau'r Afon Nil yn sychu,a'r brwyn a'r hesg yn pydru.
7 Bydd y tir ar y delta yn ddiffaith,a bydd popeth sy'n cael ei hau ar y lanyn crino ac yn cael ei chwythu i ffwrdd –fydd dim ar ôl.
8 Bydd y pysgotwyr yn galaru ac yn cwyno –pawb sy'n taflu bachyn i'r afon,neu'n bwrw rhwyd ar wyneb y dŵr.
9 Bydd y gweithwyr llin yn gofidio hefyd,y rhai sy'n cribo a'r gwehyddion.