7 Bydd y tir ar y delta yn ddiffaith,a bydd popeth sy'n cael ei hau ar y lanyn crino ac yn cael ei chwythu i ffwrdd –fydd dim ar ôl.
8 Bydd y pysgotwyr yn galaru ac yn cwyno –pawb sy'n taflu bachyn i'r afon,neu'n bwrw rhwyd ar wyneb y dŵr.
9 Bydd y gweithwyr llin yn gofidio hefyd,y rhai sy'n cribo a'r gwehyddion.
10 Bydd y rhai sy'n gwneud brethyn wedi eu llethu gan bryder,a phawb sy'n cael eu cyflogi wedi torri eu calonnau.
11 Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid.Mae cynghorwyr mwya doeth y Pharoyn dweud pethau cwbl hurt!Sut allwch chi ddweud wrth y Pharo,“Dw i'n un o'r rhai doeth,o urdd yr hen frenhinoedd”?
12 Ble maen nhw? Ble mae dy rai doeth di?Gad iddyn nhw ddweud wrthot ti a deallbeth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn bwriadu ei wneud i'r Aifft.
13 Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid,ac arweinwyr Memffis wedi eu twyllo;Mae penaethiaid ei llwythauwedi arwain yr Aifft ar gyfeiliorn.