12 Mae gan yr ARGLWYDD holl-bwerus ddiwrnod arbennigi ddelio gyda pob un balch a snobyddlyd,a phawb sy'n canmol eu hunain – i dorri eu crib nhw!
13 Bydd yn delio gyda cedrwydd Libanus,sydd mor dal ac urddasol;gyda choed derw Bashan;
14 gyda'r holl fynyddoedd uchela'r bryniau balch;
15 gyda phob tŵr uchel,a phob wal solet;
16 gyda llongau masnach Tarshish,a'r cychod pleser i gyd.
17 Dyna pryd bydd balchder y ddynoliaeth yn cael ei dynnu i lawr,a hunanhyder pobl yn syrthio.Dim ond yr ARGLWYDDfydd yn cael ei ganmol bryd hynny!
18 Bydd yr eilunod diwerth yn diflannu.